Diolch Sam…
Am gefnogi Wythnos Gwaith Ieuenctid!

Peidiwch â methu ein dathliad cenedlaethol o Waith Ieuenctid: 1–7 Tachwedd

Rhwng 1 – 7 Tachwedd, mae llawer iawn o ddigwyddiadau arbennig ar hyd a lled Cymru i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid – ac mae hynny ar ben y cannoedd o weithgareddau, prosiectau a mentrau sydd fel arfer yn digwydd bob wythnos yng Nghymru!

Chwiliwch amdanyn nhw

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid bob amser wedi cael derbyniad da gan bawb sy’n cymryd rhan ond eleni, rydym wedi gwella pethau. Rydym wedi adeiladu ar ei llwyddiant drwy fuddsoddi mwy o amser a mwy o adnoddau nag erioed o’r blaen i hybu Wythnos Gwaith Ieuenctid. Bydd ymgyrch cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth i lefelau newydd ac yn arddangos llu o ddeunyddiau hyrwyddo fel posteri a chynhyrchwyd cardiau post i chi i’w defnyddio AM DDIM i hysbysebu eich digwyddiad. Ar ben hynny, rydym wedi cyhoeddi dau arweiniad pwysig. Y cyntaf yw arddangosiad o arfer gorau sy’n amlygu rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae’r ail yn becyn Gyrfau cynhwysfawr a ddatblygwyd i recriwtio mwy o bobl ifanc i’n sector. Mae’r holl elfennau hyn i’n hymgyrch yn rhan o’n strategaeth gynhwysfawr i gynyddu cyfranogiad blwyddyn ar ôl blwyddyn - nid dim ond yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid ond mewn Gwaith Ieuenctid yn gyffredinol.

Ond mae ein llwyddiant yn dibynnu arnoch chi! Rydym am i chi gefnogi ein hymgyrch yn drylwyr felly gobeithiwn y byddwch chi’n teimlo bod y safle hwn yn ddefnyddiol ac yn llawn gwybodaeth.

Grant Digwyddiadau Ychwanegol o £500!

Yn dilyn llwyddiant Wythnos Gwaith Ieuenctid y llynedd, eleni eto, byddwn yn darparu grantiau ar gyfer Digwyddiadau Ychwanegol Wythnos Gwaith Ieuenctid. Caiff 20 o brosiectau eu dewis gan banel o ddyfarnwyr annibynnol a rhoddir grant o hyd at £500 iddynt i’w cynorthwyo gyda thalu costau sy’n gysylltiedig â sefydlu a hybu digwyddiadau arbennig sy’n cael eu trefnu’n ychwanegol at ddigwyddiadau sy’n arfer cael eu trefnu. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Grant Digwyddiadau Ychwanegol.