Mynegi eich Barn
Rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau a’ch awgrymiadau

Mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn ymdrech cydweithredol go iawn. Drwy gydweithio, gallwn i gyd helpu i wella ymhellach y gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig i bobl ifanc. Dyna pam rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cyfraniad. Felly beth am anfon e-bost atom gyda’ch sylwadau ar Waith Ieuenctid yng Nghymru. Ymhle gallwn ni wella pethau? Beth ydyn ni’n ei wneud yn iawn? Beth yw eich barn am y modd rydyn ni’n hyrwyddo gwaith ieuenctid yng Nghymru?

Ar nodyn mwy penodol, PEIDIWCH AG ANGHOFIO anfon eich ffurflenni gwerthuso ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid.

Cefnogwyd yr ymgyrch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n buddsoddi yn ein hymdrechion drwy ddarparu arian hanfodol. Ond i sicrhau arian pellach, rhaid i ni brofi bod yr arian yn cael ei wario’n ddoeth a’i fod yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl ifanc. Felly, rhowch i ni’r dystiolaeth rydym ei angen a chofiwch gyflwyno eich gwerthusiad ar unwaith! Mae ein hymgyrchoedd yn y dyfodol yn dibynnu ar hyn!

Enw

Mudiad

Ffôn

  

E-bost

Yn eich barn chi, sut byddai’n bosibl gwella ein hymgyrch?