Diolch Sam…
Dyna syniad da i’m grŵp i!
Beth am hwn fel syniad da? Rydym wedi casglu ein deugain awgrym gorau o bethau i’ch grŵp eu gwneud. Edrychwch arnyn nhw a gobeithio y cewch eich ysbrydoli oherwydd pan mae’n amser cael hwyl gyda’ch ffrindiau, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd! Os byddwch chi’n meddwl bod rhai o’r syniadau’n rhy uchelgeisiol i’ch grŵp, yna meddyliwch am hyn: Mae pob un o’r 40 syniad rydyn ni wedi’u hawgrymu yma wedi dod o weithgareddau a phrosiectau go iawn a sefydlwyd gan grwpiau ieuenctid ledled Cymru. Roedden nhw’n gwneud iddo ddigwydd a gydag ychydig o benderfyniad a thrwy weithio gyda’ch ffrindiau, gallwch chi wneud iddo ddigwydd hefyd! Beth amdani, cewch hwyl! Siaradwch â’ch gweithiwr ieuenctid am y syniadau sy’n tynnu eich sylw chi a dechreuwch drefnu!
Y 40 uchaf: Y deugain syniad gorau i’ch grŵp
- Beth am greu eich fforwm eich hun gyda’ch holl ffrindiau i newid pethau er gwell? Nid yn unig y bydd hwn o fudd i chi, ond i’ch cymuned hefyd.
- Cynhaliwch eich trafodaeth eich hun ar weithgareddau sgiliau bywyd. Gall y rhain fod yn smwddio, diogelwch yn y cartref, coginio eich prydau eich hun, glanweithdra bwyd – unrhyw beth rydych chi’n ei hoffi!
- Edrychwch ar greu eich lleoliad eich hun lle gallwch chi a’ch ffrindiau gyfarfod a bod gyda ffrindiau. Gallai hyn gynnwys pethau fel bwrdd pŵl, teledu sgrin lydan, systemau gêmau - a soffa neu ddwy!
- Adeiladwch eich wal ddringo ar gyfer y gymuned i gyd. Bydd hon yn cynnig her gyffrous a hwyliog i bawb!
- Codwch arian yn eich ardal a theithio i wlad arall i weithio gyda phobl ar brosiect cymorth yn y gymuned. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn nid yn unig i fywydau eraill ond bydd yn gwneud i chi deimlo’n dda hefyd!
- Beth am greu eich ffilm eich hun i ddelio â phroblemau budreddi a sbwriel yn eich ardal. Bydd hyn yn annog pobl i lanhau o’u cwmpas a gwneud eich ardal yn lle mwy diogel a iachach i fod ynddi.
- Trefnwch ddyddiau allan i bobl ag anableddau a’u cynnwys nhw mewn gweithgareddau na fydden nhw fel arfer yn eu gwneud. Gall y rhain gynnwys pethau fel crochenwaith, paentio, marchogaeth, dringo a hyd yn oed nofio.
- Beth am greu eich ymgyrch eich hun ar gyfer rhywbeth rydych chi wirioneddol eisiau iddo ddigwydd yn eich ardal, fel cael eich parc sgrialfyrddio pwrpasol eich hunain?
- Ysgrifennwch eich llyfryn eich hun am rywbeth rydych chi’n teimlo’n gryf amdano a’i ddosbarthu i bobl ifanc eraill. Po fwyaf niferus y bobl fydd yn ei ddarllen, po fwyaf y bobl fydd yn dod i wybod amdano. Mae’n bosibl y byddan nhw’n cynnig eich helpu i ddarganfod dulliau i’w ddatrys.
- Sefydlwch eich grŵp eich hun o wirfoddolwyr i greu clwb ar ôl ysgol i helpu eich cyd-ddisgyblion ac athrawon a phlant ag anghenion arbennig. Bydd hyn yn sicr yn dangos eich sgiliau arwain a gweithio mewn tîm i bawb.
- Cynhaliwch eich noson gwobrwyo “Oscars” eich hun. Gofynnwch i bob un o’ch ffrindiau wneud eu ffilmiau eu hunain ar bynciau fel bwlio, cyffuriau, iechyd. Bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth am y pynciau hyn i bawb a bydd yn llawer o hwyl ac yn gyfareddol hefyd!
- Beth am sefydlu eich ardal gadwraeth eich hun a gofalu am eich amgylchedd naturiol. Gallech drwsio llwybrau a gwneud cefn gwlad yn well lle i bawb.
- Dyluniwch eich gwefan eich hun i gasglu barn eich ffrindiau a’r gymuned yn gyffredinol. Mae’n ddull gwych o rannu syniadau a chydweithio i wneud gwahaniaeth go iawn.
- Cynhaliwch eich noson wobrwyo eich hun i ddathlu cyflawniadau lleol. Gall hyn fod yn unrhyw beth o arddwriaeth, cyfrifiaduron, i chwaraeon a hyfforddiant ffitrwydd.
- Ysgrifennwch a dyluniwch eich cylchgrawn eich hun i amlygu problemau pobl ifanc a dathlu cyflawniadau’r gymuned.
- Beth am greu eich dogfen eich hun ar faterion sy’n effeithio arnoch chi a’ch ffrindiau a gwahodd pawb yn eich cymuned i ddod i’w weld? Mae’n gyfle gwych i ddweud eich barn a gwneud gwahaniaeth go iawn.
- Trefnwch eich diwrnod gweithgareddau llawn a chynnwys eich holl ffrindiau. Gallwch gynnal gweithgareddau fel pêl droed, rygbi, nofio neu feicio. Byddwch chi’n cael hwyl ac yn cadw’n iach ar yr un pryd.
- Dysgwch am ddiwylliannau gwahanol yn eich cymuned a gwneud ffrindiau newydd. Byddwch chi’n dysgu am fwydydd newydd, dillad ynghyd â chelf a chrefft o bob rhan o’r byd.
- Trefnwch gêm o rygbi gyda’ch tîm lleol a chofiwch gynnwys eich ffrindiau! Gallwch werthu tocynnau i’ch ffrindiau a’ch teulu i ddod i’ch gwylio chi’n cymryd rhan hefyd!
- Ewch i weithdy dawns yn eich ardal leol! Gall merched a bechgyn wneud hyn! Meddyliwch sut bydd eich ffrindiau’n teimlo pan fyddan nhw’n eich gweld chi’n perfformio!
- Trefnwch gystadleuaeth dalent. Gallai fod yn debyg i “Britain’s Got Talent”. Gallwch hyd yn oed gael eich beirniaid eich hunain gyda rowndiau cynderfynol a therfynol hefyd. Bydd yn gyfle gwych i ddarganfod pethau am eich ffrindiau nad oeddech chi’n eu gwybod cyn hyn.
- Beth am gynnal noson Karaoke a dawns eich hunain? Mae’n ddull gwych o fwynhau eich hun a chadw’n heini.
- Beth am ffurfio eich band eich hun a mynd i chwarae mewn lleoliad ger eich cartref? Bydd yn daith gerddorol na fyddwch chi byth yn ei hanghofio a byddwch yn falch ohoni.
- Ewch i ddiwrnod adeiladu tîm wedi’i drefnu. Bydd yn rhoi her go iawn i chi ac yn gwneud i chi feddwl mewn ffordd newydd.
- Trefnwch ddigwyddiad codi arian neu ddau ar gyfer achos da. Bydd o fudd nid yn unig i chi ond i bobl o’ch cwmpas ac yn gwneud i chi deimlo’n dda amdanoch eich hun.
- Ceisiwch gael gwybodaeth am sesiynau profi yn eich ardal leol. Gallwch gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cyffrous gan gynnwys cyfryngau digidol, paentio ac addurno a hyd yn oed sgiliau syrcas! Peidiwch ag ofni profi pethau newydd nad ydych erioed wedi’u gwneud o’r blaen!
- Ymchwiliwch i dreftadaeth eich cymuned a chreu coeden achau. Byddwch chi’n darganfod cymaint o bethau diddorol nad oeddech chi’n eu gwybod cyn hyn. Gallwch hyd yn oed greu eich gwefan eich hun i ddangos y canlyniadau i bawb o’ch cwmpas.
- Dysgwch sgiliau ac ymlacio! Ewch ar gwrs neu ddau i ddysgu am bethau fel sgiliau bywyd, creu CV a chael hyd i’r swydd ddelfrydol.
- Trefnwch eich noson gwis eich hun a sicrhau eich bod yn dysgu rhywbeth! Gallwch wneud y cwestiynau mor hawdd neu mor anodd ag y dymunwch, a chael gwobrau hyd yn oed i’r tîm gorau!
- Trefnwch eich noson ffilmiau eich hunain gydag afalau taffi, cŵn poeth a kebabs ffrwythau. Gallwch hyd yn oed gael eich twrnament Wii eich hunain a chwarae yn erbyn eich ffrindiau.
- Byddwch yn dditectif! Gallwch gynnal noson Cluedo fawr gyda diodydd di-alcohol. Gallwch hyd yn oed wisgo gwisg ffansi i arbed cael eich adnabod!
- Mask-erade! Dyluniwch eich masgiau eich hunain a’u gwisgo gyda balchder i’w harddangos! Gallwch gael gwobrau am y cynllun mwyaf dychmygus gyda hwyl, gêmau a disgo hefyd!
- Cynhaliwch eich aduniad ysgol eich hunain i hel atgofion! Byddwch yn gweld ffrindiau nad ydych wedi’u gweld am amser maith a chael parti.
- Ydych chi awydd gem o bêl ‘dodge’ neu bêl foli gyda’ch ffrindiau? Beth amdani - mae’n bosibl y byddwch yn ei mwynhau!
- Ydych chi awydd dysgu rhai symudiadau dawns newydd ar gyfer y llain ddawnsio? Beth am fynd i ddosbarth dawnsio bol neu ddawnsio stryd a rhoi cynnig arni?
- Methu a choginio? Ddim am goginio! Beth am drefnu eich cystadleuaeth goginio eich hun a gwneud a gwerthu byrbrydau iach gyda’ch ffrindiau?
- Beth am gymryd rhan mewn rhaglen chwaraeon? Gallwch chwarae pêl droed am awr ac yna rhoi cynnig ar rywbeth arall o’ch dewis. Mae’n ddull gwych o ddysgu a chadw’n heini ar yr un pryd!
- Ewch i’ch clwb ieuenctid lleol i weld beth rydych chi wedi bod yn ei golli! Gallwch gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cyffrous ac mae’n ddull da o wneud ffrindiau newydd.
- Beth am fod yn lân? Cynhaliwch eich diwrnod codi sbwriel a glanhau eich hun gan wneud eich cymuned leol yn lle mwy diogel a iach i fyw ynddi. Yn sicr ddigon, dyma’r ffordd orau i wneud gwahaniaeth!
- Trefnwch gyda’ch ffrindiau i redeg eich clwb ieuenctid lleol am ddiwrnod. Byddwch chi’n dysgu am sgiliau na wyddech oedd gennych ynghyd â dysgu mwy o rai newydd!