Darganfyddwch fwy am glybiau gwaith ieuenctid yn eich ardal chi

Cymerwch ran a gwneud gwahaniaeth

A oes gennych ddiddordeb mewn gwaith ieuenctid?

Gweithgareddau newydd ar gyfer eich grŵp ieuenctid

Rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau a’ch awgrymiadau

Be sy’n digwydd gyda’r gystadleuaeth, Sam?

Canlyniadau’r Gystadleuaeth Radio:

I’n helpu i hysbysebu Wythnos Gwaith Ieuenctid, rydym wedi cynnal cystadleuaeth i roi cyfle i bobl ifainc yng Nghymru ysgrifennu a chynhyrchu eu hysbyseb radio eu hunain. Mae’n bleser mawr gennym ddatgan bod yr enillwyr yn aelodau o Rathbone Cymru o Bontypridd, a ysgrifennodd sgript ddoniol yn cynnwys cymeriadau gwych. Daeth yr ysbrydoliaeth i’r ysgrifenwyr sgript ifanc o’r gyfres Gavin and Stacey, a gallwch yn sicr glywed y dylanwad yma yn yr hysbyseb. Ymunodd Joshua Baker a Vicki Harrop o Rathbone Cymru â’r cwmni hysbysebu yn stiwdio Red Dragon a chyfarwyddo cynhyrchiad yr hysbysebion eu hunain. Gallwch wrando ar yr hysbysebion terfynol isod.

Y lleisiau gan aelodau ifainc Theatr Ieuenctid Congress yng Nghwmbrân.

Roedd y cais buddugol wedi cael argraff mor fawr arnom nes ein bod wedi’i ddewis i ymddangos gyda hysbysebion eraill ar orsafoedd radio ledled Cymru, fel rhan o’n hymgyrch genedlaethol i hybu Wythnos Gwaith Ieuenctid.

Mae’r ymgyrch yn cynnwys 6 hysbyseb ac aethom ati i wahodd aelodau ifainc o Theatr Ieuenctid Congress yng Nghwmbrân i ddarparu’r lleisiau i gyd i ni.

Mae ein cast rhagorol o bobl ifainc talentog wedi dod â’r sgriptiau’n fyw go iawn.

Diolch o galon i’r canlynol am eu perfformiadau gwych!

Kristian Gwillim
James Bryant
Laura Coles
Helena Williams
Anita Copley

Dyddiadau darlledu

Bydd yr hysbysebion wedi’u darlledu ar y gorsafoedd dilynol o Hydref 26ain am bythefnos:

  • Sain y Gororau
  • Champion 103 FM
  • Red Dragon
  • Real Radio (Cymru)
  • Coast 96.3
  • First Radio Wales
  • Radio Maldwyn

 

Dyma’ch cyfle i wrando ar yr hysbysebion!

Download the radio ad 'Boredom Buster'

Download the radio ad 'Boredom Buster'

Download the radio ad 'Boredom Buster'

Download the radio ad 'Boredom Buster'

Download the radio ad 'Boredom Buster'

Download the radio ad 'Boredom Buster'