Darganfyddwch fwy am glybiau gwaith ieuenctid yn eich ardal chi

Cymerwch ran a gwneud gwahaniaeth

A oes gennych ddiddordeb mewn gwaith ieuenctid?

Gweithgareddau newydd ar gyfer eich grŵp ieuenctid

Rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau a’ch awgrymiadau

Diolch Sam…
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn mynd i fod yn wych!

Beth fydd yn digwydd yn eich ardal chi?
Cliciwch ar y map i weld!

Diolch Sam… am ganfod rhywbeth i’w wneud yn fy ardal i!

Hoffech chi wybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid? Cliciwch ar y rhanbarth ar y map sydd agosaf at eich cartref chi i gael y rhestr ddiweddaraf o ddigwyddiadau. Bydd trefnwyr digwyddiadau’n ychwanegu eu gweithgareddau at y rhestr yn rheolaidd hyd at yr Wythnos Gwaith Ieuenctid ym mis Tachwedd. Cofiwch, mae’r rhestr yn mynd i dyfu drwy’r amser, felly cofiwch daro llygad drosti bob hyn a hyn! Os nad oes unrhyw beth wedi’i restru yn eich cymdogaeth chi, ewch i’n cyfeirlyfr a chysylltwch â ni i ganfod mwy am y gweithgareddau a’r prosiectau sy’n digwydd yn agos i’ch cartref. Mae gwaith ieuenctid yn digwydd drwy Gymru gyfan, drwy’r flwyddyn gyfan - felly rydych yn siŵr o ganfod rhywbeth diddorol i’w wneud!

Mae mwy na 600,000 o Ganllawiau Beth sydd Digwydd rhanbarthol yn cael eu cyhoeddi i hyrwyddo Wythnos Gwaith Ieuenctid, a bydd y rhain wedi’u rhoi mewn papurau newydd lleol ledled Cymru. Mae’r canllawiau’n cynnwys nifer o’r digwyddiadau sydd wedi’u rhestru ar y wefan a chipolwg ar rai o’r digwyddiadau rhagorol sy’n cael eu trefnu.

I lawrlwytho eich canllaw rhanbarthol, cliciwch ar yr eicon perthnasol isod.