Beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid?
Darganfyddwch fwy am glybiau gwaith ieuenctid yn eich ardal chi
Cymerwch ran a gwneud gwahaniaeth
A oes gennych ddiddordeb mewn gwaith ieuenctid?
Gweithgareddau newydd ar gyfer eich grŵp ieuenctid
Rydym yn gwerthfawrogi eich syniadau a’ch awgrymiadau
Wel, nid yw Sam yn seren y byd pop, yn eicon chwaraeon nac ar y teledu ond mae Sam yn arbennig i nifer o bobl ifanc.
Oherwydd, fel Gweithiwr Ieuenctid, mae Sam yn rhoi cymorth a chyngor ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a phrofi pethau newydd. Mae Sam yn cynrychioli pob un ohonon ni sy’n ymwneud â Gwaith Ieuenctid.
Mae miloedd o ‘Sams’ allan yno, yn gweithio’n ddiflino dros bobl ifanc yng Nghymru. Ar y cyfrif diwethaf, roedd 20,000 ‘Sam’ yn ysbrydoli dros 200,000 o bobl ifanc yn y Gwasanaeth Ieuenctid. Ond rydym angen mwy! A oes gennych chi’r cymwysterau i gael gyrfa wych yn y Gwasanaeth Ieuenctid? Bydd yn rhaid i chi fod yn fedrus yn frwdfrydig ac yn ymroddedig. Ond os bydd gennych y nodweddion hyn, yna nid oes un swydd sy’n fwy boddhaus, heriol nac yn rhoi fwy o fwyniant. Mewn ffaith, po fwyaf y byddwch chi’n edrych i mewn i’r posibiliadau o greu gyrfa mewn Gwaith Ieuenctid, po fwyaf y byddwch chi’n gweld pam mae cymaint o filoedd o bobl yng Nghymru yn dewis gweithio gyda phobl ifanc.
I ddarganfod mwy, lawr lwythwch y daflen wybodaeth am yrfâu isod. Bydd yn rhoi syniad da i chi sut fywyd yw bywyd Gweithiwr Ieuenctid. Hyd yn oed yn well, pam na wnewch chi ofyn i’ch gweithiwr ieuenctid a ydy’n bosibl i chi a’ch ffrindiau gymryd rhan mewn rhai o’r gweithdai a gweithgareddau a awgrymir yn y pecyn? Byddwch chi’n cael hwyl - rydyn ni’n addo!
Rydym wedi ceisio creu dolenni sy'n berthnasol ac yn addas i ddefnyddwyr ein gwefan, ond ni allwn fod yn gyfrifol am gynnwys unrhyw un o'r safleoedd hyn.